Beth alla’ i ei weld yn Fy Nghofnod Meddygol?
Cofiwch- Mae angen i’ch meddygfa alluogi’r cyfleuster hwn cyn y gallwch ei ddefnyddio.
Er mwyn i chi weld eich cofnod meddygol codedig, rhaid bodloni tair lefel o ganiatâd:
- Lefel Meddygfa – Rhaid i’ch meddygfa fod â Chofnodion Codedig Manwl wedi’u galluogi
- Lefel Claf – Rhaid i chi wneud cais am fynediad at eich cofnod codedig manwl oddi wrth eich meddygfa
- Lefel Meddyg Teulu – Rhaid i’ch meddyg teulu adolygu’ch cais a galluogi eich mynediad
Cysylltwch â’ch meddygfa ynghylch cofnodi caniatâd.
Ar ôl bodloni’r tair lefel o ganiatâd, bydd Fy Nghofnod Meddygol ar gael, a gall gynnwys unrhyw un, neu bob un o’r canlynol (gan ddibynnu ar ddewisiadau’ch meddygfa):
- Meddyginiaeth - Rhestr o’r holl feddyginiaethau sydd wedi cael eu rhoi i chi, naill ai ar bresgripsiwn amlroddadwy neu fel presgripsiwn unigol (aciwt).
- Diagnosis – Rhestr o bob diagnosis meddygol rydych chi wedi’i gael.
- Hanes Digwyddiadau - Rhestr o ddyddiadau ymgynghoriadau, manylion ynghylch cyfeiriadau ar gyfer gofal pellach, derbyniadau i ysbytai, a manylion am unrhyw ddyddiadau adolygu gyda’ch meddygfa yn y dyfodol.
- Canfyddiadau Archwiliad – Rhestr o ganfyddiadau archwiliadau a all gynnwys eitemau fel pwysau gwaed, taldra, pwysau, ysmygu ac alcohol.
- Problemau – Adran wedi’i diffinio gan eich meddygfa. Os yw’r opsiwn wedi cael ei alluogi, gwiriwch gyda’ch meddygfa am fanylion ynghylch y categori hwn.
- Risgiau a Rhybuddion – Rhestr o unrhyw alergeddau neu anoddefedd a all fod gennych.
- Gweithdrefnau - Rhestr o lawdriniaethau a phigiadau, er enghraifft, brechiadau adeg plentyndod, brechiadau teithio, brechiad ffliw, tynnu pendics ac ati.
- Ymchwiliadau – Rhestr o brofion a chanlyniadau, er enghraifft, profion gwaed, profion gwddf y groth, wrin, swabiau.
Sylwer – Efallai nad yw’ch meddygfa wedi adolygu’r canlyniadau hyn. I gael gwybodaeth ynghylch beth yw ystyr eich canlyniadau, cysylltwch â’ch meddygfa yn y ffordd arferol.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.